Cynllun Gwella Canser ar gyfer GIG Cymru, 2023-2026 Cyhoeddiad, 31 Ionawr 2023 Trydar

Mae Cynllun Gwella Canser GIG Cymru allan heddiw. Mae'n newyddion da i ganser y fron Mae cynllun gwella canser GIG Cymru yn cael ei gyhoeddi heddiw!

For the English language version of this page, please visit this link

Mae Cynllun Gwella Canser GIG Cymru allan heddiw. Mae'n newyddion da i ganser y fron.

Cyflwynodd y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan AS y cynllun mewn datganiad i Senedd Cymru.

Beth mae'r Cynllun Gwella yn ei ddweud am ganser y fron a beth mae hyn yn ei olygu i gleifion?

Mae'r Cynllun Gwella yn gam ymlaen wrth osod fframwaith newydd ar gyfer gwasanaethau Canser yng Nghymru. Mae'n cydnabod yr angen i wasanaethau gael eu cynllunio'n gyfartal ar gyfer y rhai sydd â chanser eilaidd y fron a diwallu eu hanghenion.

Gwell hyfforddiant i feddygon teulu / gweithwyr proffesiynol Gofal Iechyd

Mae'r Cynllun yn cyflwyno mynediad i hyfforddiant a chefnogaeth i feddygon teulu i adnabod arwyddion a symptomau canser eilaidd y fron. Llwyfan addysg ar-lein GatewayC ar gyfer gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol.

Gwell casglu data

Mae'r Cynllun yn ymrwymo i gasglu data'n well ar bob cam o driniaeth eilaidd ar gyfer canser y fron.

Mae Breast Cancer Now yn edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth Cymru, Rhwydwaith y GIG, Rhwydwaith Canser Cymru a Byrddau Iechyd i gyflawni uchelgeisiau’r Cynllun, tra’n ymgyrchu i sicrhau bod ymrwymiadau pellach yn cael eu gwneud i sicrhau bod cleifion canser y fron ledled Cymru yn cael y driniaeth orau bosibl. ar yr amser gorau posibl.

 

Share this page